Igboaid

Grŵp ethnig sydd yn frodorol i Alaigbo (Gwlad yr Igbo) ger Geneufor Biaffra yn ne-ddwyrain Nigeria yw'r Igboaid. Rhyw 40 miliwn ohonynt sydd yn byw yn Nigeria, tua hanner ohonynt yn siarad yr iaith Igbo, ac hwy yw un o'r grwpiau ethnig mwyaf niferus yn Affrica.

O'r 16g i'r 18g, cafodd nifer o Igboaid eu cipio a'u gorfodi i fod yn gaethweision gan fasnachwyr Mwslimiaid o'r gogledd a llwythau eraill ger yr arfordir. Cafodd niferoedd mawr ohonynt eu cludo i'r Amerig gan yr Ewropeaid yn y fasnach drionglog. Cafodd y mwyafrif o Igboaid eu troi'n Gristnogion gan genhadon yn y 19g, ac erbyn heddiw maent yn gymysgedd o Babyddion ac enwadau Protestaniaid, ac yn cadw rhywfaint ar yr hen gredoau megis addoli eu cyndeidiau. Daeth Alaigbo dan reolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig yn 1884, a bu'r Igboaid yn mabwysiadu diwylliant ac addysg Ewropeaidd yn gyflymach na phobloedd eraill Nigeria.[1]

Yn sgil annibyniaeth Nigeria yn 1960, cynyddodd tensiynau ethnig yn y wlad. Lladdwydd miloedd mewn ymosodiadau gan Fwslimiaid yn y gogledd yn 1965–66, a bu mwy nag un miliwn o Igboaid yn ffoi i Alaigbo. Datganwyd annibyniaeth rhanbarth y dwyrain, dan yr enw Gweriniaeth Biaffra, yn 1967. Erbyn diwedd y rhyfel yn 1970, bu farw mwy nag un miliwn o Igboaid o ganlyniad i newyn.

  1. James B. Minahan. Encyclopedia of Stateless Nations (Santa Barbara: Greenwood, 2016), t. 178–79.

Developed by StudentB